Psalms 105

Duw a'i bobl

(1 Cronicl 16:8-22) 1Diolchwch i'r Arglwydd, a galw ar ei enw!
Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud.
2Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli!
Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
3Broliwch ei enw sanctaidd!
Boed i bawb sy'n ceisio'r Arglwydd ddathlu.
4Dewch at yr Arglwydd, profwch ei nerth;
ceisiwch ei gwmni bob amser.
5Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth –
ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu!
6Ie, chi blant ei was Abraham;
plant Jacob mae wedi eu dewis.
7Yr Arglwydd ein Duw ni ydy e;
yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.
8Mae e'n cofio ei ymrwymiad bob amser,
a'i addewid am fil o genedlaethau –
9yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,
a'r addewid wnaeth ar lw i Isaac.
10Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob –
ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!
11“Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai,
“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”
12Dim ond criw bach ohonyn nhw oedd –
rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,
13ac yn crwydro o un wlad i'r llall,
ac o un deyrnas i'r llall.
14Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;
roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
15“Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial
105:15 fy mhobl sbesial Hebraeg, “fy rhai eneiniog”.
i;
peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”
16Ond wedyn daeth newyn ar y wlad;
cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw.
17Ond roedd wedi anfon un o'u blaenau,
sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas.
18Roedd ei draed mewn cyffion;
roedd coler haearn am ei wddf,
19nes i'w eiriau ddod yn wir
ac i neges yr Arglwydd ei brofi'n iawn.
20Dyma'r brenin yn ei ryddhau o'r carchar;
llywodraethwr y cenhedloedd yn ei ollwng yn rhydd.
21Gwnaeth e'n gyfrifol am ei balas,
a rhoi iddo'r awdurdod i reoli popeth oedd ganddo.
22Disgyblu'r arweinwyr eraill fel y mynnai,
a dysgu doethineb i'r cynghorwyr hŷn.
23Yna dyma Israel yn symud i'r Aifft;
aeth Jacob i fyw dros dro yn nhir Cham.
24Gwnaeth Duw i'w bobl gael llawer o blant,
llawer mwy na'i gelynion nhw.
25Dechreuodd y gelynion gasáu ei bobl,
a cham-drin ei weision.
26Wedyn dyma Duw yn anfon ei was Moses,
ac Aaron, yr un oedd wedi ei ddewis.
27Dyma nhw'n dweud am yr arwyddion gwyrthiol
roedd Duw yn mynd i'w gwneud yn nhir Cham:
28Anfon tywyllwch, ac roedd hi'n dywyll iawn!
Wnaethon nhw ddim herio beth ddwedodd.
29Troi eu dŵr nhw yn waed
nes i'r pysgod i gyd farw.
30Llenwi'r wlad hefo llyffaint –
hyd yn oed y palasau brenhinol.
31Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed –
gwybed drwy'r tir ym mhobman.
32Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw,
a mellt drwy'r wlad i gyd.
33Taro eu gwinwydd a'u coed ffigys,
a bwrw coed i lawr drwy'r wlad.
34Gorchymyn anfon locustiaid –
llawer iawn gormod ohonyn nhw i'w cyfri.
35Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd,
ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir!
36Yna lladd plentyn hynaf pob teulu drwy'r wlad –
ffrwyth cyntaf eu cyfathrach.
37Daeth ag Israel allan yn cario arian ac aur!
Doedd neb drwy'r llwythau i gyd yn baglu.
38Roedd pobl yr Aifft mor falch pan aethon nhw,
achos roedd Israel wedi codi dychryn arnyn nhw.
39Wedyn rhoddodd Duw gwmwl i'w cysgodi,
a tân i roi golau yn y nos.
40Dyma nhw'n gofyn am fwyd, a dyma soflieir yn dod;
rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw o'r awyr.
41Holltodd graig, nes bod dŵr yn pistyllio allan ohoni;
roedd yn llifo fel afon drwy dir sych.
42Oedd, roedd Duw'n cofio'r addewid cysegredig
oedd wedi ei wneud i'w was Abraham.
43Daeth â'i bobl allan yn dathlu!
Roedd y rhai wedi eu dewis ganddo'n bloeddio canu.
44Rhoddodd dir y cenhedloedd iddyn nhw;
cawson nhw fwynhau ffrwyth llafur pobl eraill.
45Gwnaeth hyn er mwyn iddyn nhw gadw ei reolau
a bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.

Haleliwia!
Copyright information for CYM